learncymraeg.org
Pam dysgu? | Chwilio am gwrs | Newyddion | Adnoddau | Gwybodaeth Bellach | English
We'll bring out the Cymraeg in you
Am y ganolfan
Sefydlwyd y Ganolfan ar 1 Ebrill 2006 yn dilyn ail-strwythuro maes Cymraeg i Oedolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlodd 6 Canolfan ranbarthol trwy Gymru. Mae'r Ganolfan hon yn un o'r 6 ac yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru. Mae ei dalgylch yn cynnwys Môn, Gwynedd (ac eithrio Meirionnydd) a Chonwy yn y gorllewin, a Dinbych, Fflint a Wrecsam yn y dwyrain. Golyga hyn diriogaeth o Ben Llŷn yn y gorllewin i Wrecsam yn y dwyrain, a chyn belled â ffiniau gogleddol Meirionnydd a Maldwyn tua'r de. Mae gan y rhanbarth boblogaeth o 631,283; gyda 30% ar gyfartaledd yn siarad, darllen neu'n ysgrifennu Cymraeg. Cafwyd dros 7000 o ymrestriadau rhwng pob darparwr yn y rhanbarth yn 2005/2006, y nifer uchaf o ymrestriadau o blith y 6 rhanbarth newydd o bell ffordd.

Mae prif swyddfa'r Ganolfan ym Mharc Menai ym Mangor ac mae swyddfa ganddi hefyd ar Barc Busnes Llanelwy ynghyd ag un aelod o staff yng Nghei Conna (trwy garedigrwydd Coleg Glannau Dyfrdwy).

Prif swyddogaeth y Ganolfan yw:
Gwybodaeth a chymorth - Darparu cefnogaeth eang i ddysgwyr am bob agwedd o'r maes.
Y Gweithle - Datblygu ac ehangu'r cymorth sydd ar gael i weithleoedd sydd eisiau gwella'r cyfleoedd dysgu Cymraeg a gynigir i'w staff.
Teuluoedd - Datblygu cyfleoedd gwirioneddol i rieni di-Gymraeg ddysgu Cymraeg a chynorthwyo'u plant gyda'u haddysg ddwyieithog.
Dysgu anffurfiol - Datblygu strwythur a chyfleoedd, mewn cydweithrediad â chyrff cyhoeddus a gwirfoddol amlwg eraill, i alluogi dysgwyr i ddefnyddio'u Cymraeg yn naturiol y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Adnoddau - Datblygu cyrsiau ac adnoddau dysgu Cymraeg i Oedolion fel bod yr adnoddau cyfoes gorau posibl ar gael i'n dysgwyr.
Marchnata - Hyrwyddo'r cyfleoedd i bawb fedru manteisio ar y dewis i ddysgu Cymraeg.
Hyfforddi tiwtoriaid - Sefydlu rhaglen hyfforddi barhaus i diwtoriaid a darpar diwtoriaid y gogledd ac mae hyn yn cynnwys cynnig cymhwyster cenedlaethol newydd o fis Hydref 2007 ymlaen, ynghyd â rhaglen ddatblygu a hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer y rhanbarth.
Strategaeth - Darparu arweiniad strategol i'r maes Cymraeg i Oedolion yn y gogledd.
Cynllunio - Cyd-drefnu'r maes a'r ddarpariaeth yn effeithiol, mewn cydweithrediad â'r darparwyr presennol er mwyn gwella'r hyn sydd ar gael i ddysgwyr.
Cytundebu - Cynnig cytundebau i gynifer â phosibl o'r darparwyr unigol yn y gogledd er mwyn cynnig dewis eang o gyrsiau i ddysgwyr y gogledd, ar ran y Ganolfan hon.
Cydlynu - Holl ddarpariaeth y gogledd mewn modd a fydd yn cynnig y dewis gorau ac ehangaf i ddysgwyr y rhanbarth.
Ymchwil farchnata - Cynnal ymchwil i'r farchnad yn rheolaidd er mwyn canfod beth yw gofynion y dysgwyr.

Cymraeg i Oedolion .:. Uned 8 a 9 .:. Llys y Fedwen .:. Ffordd Gelli Morgan .:. Parc Menai .:. Bangor .:. Gwynedd .:. LL57 4BL .:. Tel/Ffon: 01248 383928
Ty Pendre .:. Pwll Glas .:. Yr Wyddgrug .:. Sir y Fflint .:. CH7 1RA .:. Tel/Ffon: 01352 860014
UWB Logo (Small)
Learn Welsh with the North Wales Welsh for Adults Centre
Welsh Assembly Government Logo