
Cwrs Blasu:
Cyrsiau blasu sy'n cyflwyno sut i ynganu, cyfarch ac ymadroddion syml.
Entry/Mynediad:
Dyma'r cwrs i ddechreuwyr pur. Dylai'r unigolyn feddwl yn ddwys pa mor sydyn yr hoffai ddysgu'r iaith. Os ydyw'r bryd ar ddysgu Cymraeg yn rhugl yna dylid chwilio am gwrs dwys wlpan. Er hyn mae modd dysgu yn mwy hamddenol trwy fynychu cwrs ond unwaith yr wythnos. Cyfathrebu a siarad yw nod y cwrs yma.
Foundation/Sylfaen:
Dylech fod wedi cwblhau cwrs Wlpan neu Fynediad cyn mentro ar gwrs Sylfaen. (Canol-Wlpan ydy'r cwrs dwys). Er hyn, os ydych yn teimlo'n hyderus neu yn awchu am sialens i ddysgu Cymraeg yna byddwch yn ddewr a mentro ar gwrs Sylfaen!
Intermediate/Canolradd:
Cwrs sy'n adeiladu ar sgiliau Sylfaen ac sy'n canolbwyntio ar sgiliau llafar, gwella gallu darllen, ysgrifennu a gwrando. Mae'n bosib cymryd arholiad Defnyddio'r Gymraeg Canolradd (safon TGAU) ar ddiwedd y cwrs yma.
Advanced/Uwch:
Cwrs sy'n canolbwyntio i ddatblygu eich sgiliau darllen a chyfathrebu yn Gymraeg. Cwrs hefyd sy'n cyfateb i Lefel A - Defnyddio'r Gymraeg Uwch.
Proficiency/Hyfedredd:
Cyrsiau amrywiol sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr ymestyn eu sgiliau sgwrsio trwy drafod a dysgu am feysydd newydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs yma yn addas ar gyfer Cymry Cymraeg yn ogystal!