Prif swyddogaeth y Cyfarwyddwr yw rheolaeth gyffredinol y Ganolfan gan gynnwys arweiniad strategol, rheolaeth gyllidol, cyfrifoldeb am gytundebau rhanbarthol, rheoli data a sicrhau ansawdd.
Mae Ifor wedi ei leoli yn y swyddfa ym Mangor.
Prif swyddogaeth y Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd yw arwain a rheoli rhaglen hyfforddi tiwtoriaid y Ganolfan, a monitro a gwella ansawdd y ddarpariaeth ar draws y rhanbarth.
Mae Haydn wedi ei leoli ym Mangor.
Prif swyddogaeth y Swyddog Datblygu yw cydweithio'n agos â holl ddarparwyr cyrsiau Cymraeg i Oedolion o fewn y rhanbarth er mwyn datblygu a hyrwyddo'r maes, gan gynnwys datblygu darpariaeth ar gyfer cynulleidfaoedd penodol megis rhieni, gweithleoedd a siaradwyr Cymraeg dihyder.
Mae Pam yn gwasanaethu dwyrain rhanbarth y gogledd ac mae wedi ei lleoli y Yr Wyddgrug.
Prif swyddogaeth y Rheolwr Data fydd sefydlu a chynnal systemau casglu a gwirio data'r Ganolfan, cydweithio'n agos gyda holl ddarparwyr y rhanbarth a rheoli defnydd cyffredinol y Ganolfan o dechnoleg gwybodaeth.
Mae Gary wedi ei leoli ym Mangor
Prif gyfrifoldebau'r Cyd-lynydd Dysgu Anffurfiol ydy datblygu rhaglen o weithgareddau dysgu anffurfiol gan ddarparwyr Cymraeg i Oedolion y gogledd, cyd-lynu’r ddarpariaeth dysgu anffurfiol a gynigir eisoes gan amrywiol gyrff ledled y gogledd, a hyrwyddo a datblygu darpariaeth ychwanegol gan amrywiol bartneriaid y Ganolfan.
Mae Siwan wedi ei lleoli ym Mangor.
Mae'r Ymchwilydd yn gyfrifol am weithrediad dydd i ddydd prosiect ymchwil y Ganolfan sy'n edrych ar ac yn monitro cynnydd, profiadau ac agweddau amrywiol 1000 o ddysgwyr ledled rhanbarth gogledd Cymru.
Prif gyfrifoldeb y Swyddog Hyfforddiant ac Ansawdd Cynorthwyol ydy cynorthwyo'r Dirprwy Gyfarwyddwr i drefnu a darparu cynllun hyfforddi'r Ganolfan ar gyfer tiwtoriaid, ac i ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau sicrhau ansawdd ar draws y rhanbarth.
Cyfrifoldeb ar reoli swyddfa cyffredinol yn ogystal â chydlynu gwaith marchnata, arsylwadau a threfnu arholiadau.
Prif swyddogaeth yr Ysgrifenyddes yw bod yn bwynt cyswllt cyntaf i'r cyhoedd, a'u cynghori a'u cynorthwyo, ynghyd â chynnig cefnogaeth fewnol i staff y Ganolfan gyda gwaith gweinyddol dyddiol.
Mae Ceri wedi ei lleoli ym Mangor.