Mae pob math o gyrsiau Cymraeg i Oedolion ar gael ar hyd a lled Gogledd Cymru. Chwiliwch yma am gwrs addas i chi.
HafanMae pob disgybl ysgol yng Nghymru naill ai'n gallu siarad Cymraeg neu'n dysgu – yn wir, gall 40% o blant rhwng 5 a 15 oed siarad Cymraeg. Efallai na chawsoch chi'r cyfle i ddysgu Cymraeg pan oeddech chi yn yr ysgol, neu efallai eich bod wedi colli peth o'ch Cymraeg neu'n ddi-hyder, ond mae dysgu gyda'ch gilydd fel teulu yn ffordd wych o gael gafael ar yr iaith.
Os yw eich plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol, mae gennych gyfle gwych i ddysgu ar yr un pryd trwy ymrestru ar gwrs Cymraeg i Oedolion. Mae'r Ganolfan yn cynnig cyrsiau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer teuluoedd er mwyn ateb y galw enfawr gan rieni sydd eisiau dysgu Cymraeg a medru sgwrsio gyda'u plant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r cyrsiau yn ymwneud â themâu perthnasol i'r teulu ac yn cael eu cynnal ar amseroedd sy'n gyfleus i rieni a phlant. Os hoffech ddysgu tra bod eich plant yn yr ysgol neu'r feithrinfa, mae yna'n siŵr o fod gwrs ar gael.
Mae rhieni ar draws y rhanbarth eisoes yn mwynhau'r manteision o ddysgu Cymraeg – helpu eu plant gyda gwaith cartref, defnyddio'r iaith wrth fynd am dro, dysgu am ddiwylliant lleol a chael hwyl gyda theulu a ffrindiau.
Am fwy o wybodaeth neu i drafod eich anghenion penodol chi, cysylltwch â ni.