Dyma'n dewis ni o'r 10 adnodd mwyaf defnyddiol i ddysgwyr.
Mae mwy o adnoddau a lincs ar gael ar wefan genedlaethol Cymraeg i Oedolion. Cliciwch yma.
1. BBC
http://www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/
Geiriadur ar-lein, gwiriwr treiglo a chyfoeth o weithgareddau rhyngweithiol i ddysgwyr, yn addas ar gyfer pob lefel.
2. S4C
http://www.s4c.co.uk/dysgwyr/
Gweithgareddau'n seiliedig ar raglenni S4C, wedi eu graddio ar gyfer dysgwyr Mynediad, Sylfaen a Chanolradd.
3. Cysgliad
http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/cysgliad.php.cy
Meddalwedd sy'n eich cynorthwyo i ddefnyddio'r Gymraeg yn y swyddfa a'r cartref. Yn cynnwys gwiriwr sillafu a geiriadur.
4. Acen
http://www.acen.co.uk/
Cylchgrawn gyda nifer o erthyglau dwyieithog. Mae rhai erthyglau'n uniaith Gymraeg ac maent wedi eu graddio ar gyfer dysgwyr Mynediad a Sylfaen. Mae modd ei lawr-lwytho'n ogystal.
5. Cymraeg on the Move
http://www.cymraegonthemove.co.uk/
Podlediadau a sgriptiau o sgyrsiau anffurfiol ar gyfer dysgwyr.
6. Clwb Malu Cachu
http://clwbmalucachu.co.uk/cmc/
Gwefan yn cynnwys taflenni twyllo gramadeg, ffeiliau sain, straeon byrion, cyfweliadau a llawer mwy.
7. Gwales
http://www.aber.ac.uk/~wbcwww/graphix/pdfs/TAF_DymaGymraeg.pdf
Catalog PDF o lyfrau ffeithiol, iaith a gramadeg, geiriaduron a nofelau i ddysgwyr. Gellir eu harchebu ar-lein yn ogystal.
8. CBAC
http://www.cbac.co.uk/index.php?subject=105&level=15
Gwefan Cyd-bwyllgor Addysg Cymru. Yn cynnwys cyn-bapurau arholiad ac adnoddau cwrs i'w harchebu.
9. Rhedadur
http://www.rhedadur.org.uk/
Gwefan sy'n dangos sut i redeg berfau Cymraeg
10. Golwg
http://www.golwg360.com/ui/users/homeview.aspx
Cylchgrawn materion cyfoes ar-lein. Yn addas ar gyfer dysgwyr lefel Uwch. Copi papur wythnosol hefyd ar gael.