learncymraeg.org

Newyddion

Hafan

TAMAID I AROS PRYD.

Ydach chi yn ‘nabod rhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg yn ardal Wrecsam? Yna, dyma’r wybodaeth i chi. Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn cynnal pum sesiwn blasu’r Gymraeg AM DDIM i unigolion yn ardal Wrecsam, er mwyn eu hannog i gofrestru ar gyrsiau yn nghanol mis Medi. I gael gwybodaeth am y lleoliadau a’r dyddiadau, cliciwch yma os gwelwch yn dda.

DWY EISTEDDFOD LLWYDDIANNUS YN Y GOGLEDD

Am y tro cyntaf yn hanes Canolfan Cymraeg i oedolion y Gogledd, cynhaliwyd dwy Eisteddfod y Dysgwyr llwyddiannus iawn ym mis Ebrill a Mai eleni. Hoffem ddiolch o galon i bawb a fu’n rhan o’r Eisteddfod- o’r cystadlu i’r trefnu ac i’r help llaw ar y noson.

Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd Ddwyrain
Yr oedd Clwb y Gweithwyr yng Ngwersyllt ger Wrecsam dan ei sang ar nos Wener, Ebrill 23ain, gyda degau o ddysgwyr a thiwtoriaid brwd wedi dod i gefnogi ei gilydd ar gyfer Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd Ddwyrain.

Yn y gorffennol, darparwyr Cymraeg i oedolion a mentrau iaith yr ardal sydd wedi bod yn trefnu’r Eisteddfod, ond eleni, y Ganolfan oedd ynghlwm a’r gwaith pennaf hwnnw.

Hyd yn oed cyn y noson fawr ‘roedd cyfanswm o 93 o ddysgwyr wedi cystadlu yn y gwaith cartref a 7 o’r rheiny wedi ysgrifennu cerdd dan y thema ‘Adfywiad’ ar gyfer gwobr y Gadair.

Cafwyd nifer fawr yn ymgeisio ymhob cystadleuaeth o dan arweiniad hwyliog Siôn Aled a chafwyd beirniadaethau teg gan Aled Lewis Evans (beirniad llenyddiaeth a llefaru); Craig Owen Jones (beirniad cerdd a thlws Dafydd ap Llywelyn) a Helen Pritchard Jones (beirniad Celf a Chrefft a gwaith llaw).

Enillydd y gadair eleni oedd Chris Ryder o Abergele, llongyfarchiadau mawr iddi hi, a phob hwyl gyda’r gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010.

Edrychwn ymlaen rŵan at Eisteddfod y Dysgwyr 2011, fydd yn dod i leoliad yn Sir y Fflint.

Eisteddfod Dysgwyr y Gogledd Orllewin
Ar nos Wener, Mai 21ain, ‘roedd dysgwyr ardal y gogledd orllewin yn hogi eu harfau i baratoi at Eisteddfod y dysgwyr yn Neuadd Hendre, Tal y Bont ger Bangor. Dyma’r tro cyntaf i Eisteddfod gael ei threfnu yn ardaloedd y Gwynedd, Môn a Chonwy.

‘Roedd oddeutu 200 o ddysgwyr yn bresennol, yr awyrgylch yn wych, a phawb wedi cyffroi yn llwyr.

Cafwyd wyth cystadleuaeth ar y llwyfan oedd yn amrywio o cystadlaethau unigol, i gyflwyno stori ddonio, sgetsh ac i goroni’r cyfan cafwyd 12 parti canu a 10 parti adrodd ar ddiwedd y noson!

‘Roedd arweiniad y ‘Steddfod dan ofal cywrain Mr Elwyn Hughes a Ms Jina Gwyrfai, a beirniaid y noson oedd Craig Owen Jones (Cerddoriaeth) a Ifan Prys (Llefaru a adloniant).

Clecs

Darllennwch ein Newyddlen ddiweddaraf yma

Cymraeg o'r Crud


Grŵp o rieni newydd yn dysgu Cymraeg gyda Choleg Menai yn Noddfa Caernarfon, Ionawr 2010.

Y cwrs yw Cymraeg o'r Crud- cwrs blasu arbennig i rieni babanod 0-11mis oed (– ond mae'n boblogaidd gyda brodyr a chwiorydd hŷn hefyd!)

Cwrs 10 sesiwn 1.5awr yw Cymraeg o'r Crud sy'n cynnwys ymadroddion hanfodol i rieni - 'ty'd i newid dy glwt', 'ti'n werth y byd'; geirfa ddefnyddiol - dillad, rhannau'r corff, teganau; a hefyd yn cyflwyno patrymau iaith syml, ymarfer darllen stori yn Gymraeg a chanu caneuon iaith a thraddodiadol. Mae hyd yn oed CD o ganeuon am ddim gyda'r cwrs!

Trefnir y cwrs mewn partneriaeth gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion gogledd Cymru, y colegau addysg bellach lleol (Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor) a'r mudiad TWF.

'It's ideal ! I can use real everyday Welsh with my baby now'.

'The CD is on in the car every time we go out, she loves the songs, and I can join in'.

Penwythnos yn Glan Llyn i ddysgwyr Cymraeg

Os goffech ymuno gyda dysgwyr eraill o wahanol ardaloedd o Gymru, dewch i Glan Llyn, ger y Bala am benwythnos llawn gweithgareddau i'r teulu oll o Ebrill 9-11eg. Cliciwch yma am fwy o fanylion.

Cefnogaeth ariannol i Ddysgwyr Cymraeg

Gall unrhyw un sydd yn awyddus i ddysgu Cymraeg yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru fanteisio o gefnogaeth ariannol. Mae arian ar gael i gymorthwyo gyda chost prynu deunyddiau, teithio, gofal plant a chostau eraill. Y nod yw sicrhau nad oes gan bobl unrhyw rwystr wrth fynd ati i ddysgu Cymraeg.

Mae'r cynllun yn brosiect ar y cyd gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd a Chanolbarth Cymru, ac yn defnyddio cyllid wrth gefn a ddarperir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae grantiau ar gael i unrhyw un sydd a llai na £17,700 o incwm blynyddol.

Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, sydd yn gyfrifol am gydlynnu darpariaeth cyrsiau Cymraeg ar draws y Gogledd, 'Mae adborth gan ddysgwyr yn ogystal a'r rhai sy'n dymuno dysgu Cymraeg yn dangos fod cost yn ffactor fawr sy'n eu rhwystro rhag cofrestru ar gwrs. Dylai'r iaith Gymraeg fod yn gyraeddadwy i bawb, ac 'rydym eisiau sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i ddysgu. Dyna pam 'rydym yn sicrhau fod y cyllid hwn ar gael. Byddwn yn annog dysgwyr newydd a phresennol i gymryd mantais o'r cynllun hwn.

Er mwyn darganfod os ydych yn gymwys , ac am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth ariannol i ddysgwyr Cymraeg, cysylltwch a ni.

Cliciwch yma i weld y daflen wybodaeth.

Blog Brenhinol


Er mai rhaglen yn arbennig ar gyfer y Nadolig a gafwyd gan deulu Royle y Nadolig hwn, mae modd dilyn hynt a helyntion Jim Royle am gyfnod hirach na hynny!

Yn dilyn colli ei wraig yn ddiwedddar, penderfynnodd Will Williams (sydd yn adnabyddus am fod yn debyg i'r actor Jim Royle ar raglen deledu boblogaidd 'The Royle Family') ei fod am roi rhywbeth yn ôl i gymuned Caernarfon a fuodd mor gymwynasgar tuag ato dros yr amser anodd- a hynny drwy ddysgu Cymraeg!

Er mwyn i bawb gael dilyn ei hanes yn dysgu'r iaith, mae Will yn blogio'n gyson ar www.roylewelsh.com. Mae'n awyddus iawn i geisio cael dysgwyr, ynghyd ag eraill sydd â diddordeb mewn dysgu'r iaith i ddilyn ei daith, yn ogystal â'u hysgogi i ddysgu'r iaith eu hunain. Dywedodd Will \"dwi wrth fy modd yn rhannu fy mhrofiadau gyda'r byd a'r betws am ddysgu Cymraeg, ac yn gobeithio y gallaf gael mwy o bobl i sylweddoli pa mor bwysig, hwyliog a di-boen ydi'r broses.\"

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru yn awyddus i ddefnyddio mwy o gyfryngau sydd ar gael ar y rhyngrwyd ac annog dysgwyr i wneud defnydd ohonynt. Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr y Ganolfan, \"mae cymaint o ddefnydd yn cael ei wneud o'r cyfryngau cymdeithasol y dyddiau yma ac mae'n bwysig ein bod yn gallu gwneud y defnydd mwya' ohonynt. Bydd dysgwyr yn dilyn ymdrech Will, a gobeithio y bydd hyn yn creu mwy o ymwybyddiaeth am y broses o ddysgu ac ymarfer y Gymraeg!\"

Magwyd Will y tu allan i Gymru, ond mae wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ers 25 mlynedd bellach, ac yn cadw busnes Gwely a Brecwast 'Tŷ Hapus' yn y dref. Mae rhan fwyaf o bobl yr ardal yn ei adnabod am yr holl waith diflino mae'n ei wneud i gasglu arian i wahanol elusennau yn yr ardal.

Dilynwch ymdrech Will ar http://www.roylewelsh.com

Cyfle i Diwtoriaid y gogledd rwydweithio


Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd wedi sefydlu clwb ar gyfer tiwtoriaid yn ardal gorllewin Gwynedd er mwyn rhoi mwy o gyfleon i diwtoriaid rwydweithio a rhannu profiadau. Cynhaliwyd noson gyntaf y clwb nos Wener, Tachwedd 20fed gyda chynrychiolaeth dda o diwtoriaid yn bresennol.

Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd, 'prif bwrpas y Clwb yw sicrhau bod tiwtoriaid sydd yn gweithio ymhob twll a chornel o'r sir yn cael cyfle i gymdeithasu, rhannu profiadau a mynegi barn gyda'i giydd yn ogystal a chyda staff y Ganolfan.'

Yn ol Sian Davies, tiwtor yng Ngwynedd, 'roedd hi'n noson dda, ac yn gyfle gwych i gyfarfod tiwtoriaid a chyfnewid syniadau newydd, sydd bob amser yn handi. Byddwn yn sicr yn dod at ein gilydd eto.'

Bwriedir sefydlu clybiau ym mhob sir yn fuan, a'r bwriad yw gweld mwy o gydweithio a rhannu adnoddau ymhlith y 160 o diwtoriaid sydd yn dysgu Cymraeg i ddysgwyr y gogledd.

Meggan Lloyd Prys yn Ennill Dysgwyr y Flwyddyn


Y pedwar dysgwr ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2009 (o'r chwith); Zoe Morag Pettinger o Fareham yn wreiddiol ond yn byw yn Nhrisant, Aberystwyth; Meggan Lloyd Prys (enillydd) yn wreiddiol o Ohio, yr UDA, ond bellach yn byw yn Rhiwlas Bangor; John Burton, yn wreiddiol o Crewe ond yn byw ym Mhenmachno erbyn hyn, a Dominic Gilbert, o Fanceinion yn wreiddiol, ond bellach yn byw ym Miwmares.

O Ohio y daw enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2009. Magwyd Meggan Lloyd Prys yn Chillicothe, ac yno hefyd y bu'n astudio pan gyfarfu ei gwr, Cynog, a datblygu diddordeb yn y Gymraeg a Chymru.

Daeth i fyw i Gymru ddwy flynedd a hanner yn ôl, a dechreuodd ddysgu Cymraeg ddiwrnod yn unig ar ôl cyrraedd y wlad. Fis yn ddiweddarach, fe briododd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Penderfynnodd yn syth i ddilyn cwrs 'Swper Wlpan' (Cwrs Wlpan cyflym iawn, pum diwrnod yr wythnos am ddeg wythnos. Mi fedrwch chi gyrraedd safon TGAU mewn ychydig fisoedd) dan adain Elwyn Hughes ym Mhrifysgol Bangor ac ar ôl blwyddyn a hanner o ddysgu roedd yn siarad gyda'i theulu yng nghyfraith yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn, mae'n gweithio fel Cymhorthydd Dosbarth ac Anghenion Addysgol Arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Llanfairpwll, Ynys Môn yn ogystal â bod yn diwtor Cymraeg i Oedolion, sydd yn gamp mawr i unrhyw ddysgwr.

Derbyniodd Meggan Wobr Dysgwr y Flwyddyn mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Cywain, Y Bala, nos Fercher, 5 Awst, a derbyniodd Dlws Dysgwr y Flwyddyn er cof am Marged Jones, a gyflwynwyd gan Ddysgwyr y Bala, a £300, yn rhoddedig gan Dafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn.

Y beirniaid oedd Elin Williams, Haydn Hughes a Clive Wolfendale, ac roedd y tri'n gytun bod y penderfyniad wedi bod yn un anodd, gan fod y gystaleuaeth eleni o ansawdd arbennig iawn.

Y tri arall ar y rhestr fer oedd John Burton, yn wreiddiol o Crewe ond yn byw ym Mhenmachno erbyn hyn, Zoe Morag Pettinger o Fareham yn wreiddiol ond yn byw yn Nhrisant, Aberystwyth, erbyn hyn, a Dominic Gilbert, o Fanceinion yn wreiddiol, ond yn byw ym Miwmares erbyn hyn. Mae'r tri yn derbyn Tlws y Rownd Derfynol, a gyflwynwyd gan Ddysgwyr y Bala, a £100 yr un, yn rhoddedig gan Dafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn.


Eich siop-un-stop ar gyfer dysgu Cymraeg yng Ngogledd Cymru
Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol...
01248 383928 neu learncymraeg@bangor.ac.uk
Llywodraeth Cynulliad CymruPrifysgol Cymru BangorCymraeg i Oedolion