learncymraeg.org
Pam dysgu? | Chwilio am gwrs | Newyddion | Adnoddau | Gwybodaeth Bellach | English
We'll bring out the Cymraeg in you
Eisteddfod - beth ydyw?
Mae'r Eisteddfod yn dyddio yn ôl i'r 12fed ganrif lle cynhaliwyd gwyl am y tro cyntaf erioed yn Aberteifi. Gwyl gerddorol a diwylliannol! Ail atatgyfnerthwyd yr wyl yn y 18fed Ganrif lle datblygodd o nerth i nerth hyd heddiw!

Cynhelir amryw o Eisteddfodau yn flynyddol ar hyd a lled y wlad. Caiff nifer helaeth o Eisteddfodau eu cynnal mewn ysgolion ac yna ceir Eisteddfod yr Urdd.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw'r wyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop a gynhelir yn flynyddol ar gyfer plant a phobl ifanc i gystadlu mewn nifer eang o gystadlaethau.

Mae Eisteddfod Genedlaethol eleni yn rhedeg o 4ydd o Awst i 11 yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Gelwir cae sy'n llawn adloniant, gweithgareddau, stondinau a phafiliwn yn Faes. Canolbwynt y maes i'r dysgwyr ydi pabell y Dysgwyr.

Mae gwledd yn eich aros gydag amrywiaeth eang iawn o atyniadau trwy gydol yr wythnos. Os ydych yn hoffi dawnsio modern neu draddodiadol yna'r Babell Ddawns ydi'r lle i chi! Beth am y Babell Wyddoniaeth os am gael gweld datblygiadau cyffrous y byd dylunio a chreu?

Mae rhan helaeth yn hoffi treulio diwrnod neu fwy yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ceir cyflwysterau gwersylla a charafanio ond yn fwy na dim ceir naws gymdeithasol glos y Cymry Cymraeg. Ceir adloniant gyda'r nos sy'n amrywio o gyngherddau, y theatr a gigs. Digonedd o bethau at ddant pawb o bob oed.

Bydd holl staff learncymraeg.org yn bresennol yn yr Eisteddfod trwy gydol yr wythnos yn holi dysgwyr profiadol a newydd am eu profiadau yn ogystal â chael cyfweliadau gyda enwogion Cymru.

Bydd llu o luniau yn ddyddiol i'w gweld ar ein gwefan yn ogystal â'n gwe gamera!

Caiff yr holl gyfweliadau eu darlledu ar ein gwefan - gwefan sydd wedi ei chreu yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod. Cofiwch gadw llygad barcud ar ein safle rhag ofn y byddwch chi yno!

Cymraeg i Oedolion .:. Uned 8 a 9 .:. Llys y Fedwen .:. Ffordd Gelli Morgan .:. Parc Menai .:. Bangor .:. Gwynedd .:. LL57 4BL .:. Tel/Ffon: 01248 383928
Ty Pendre .:. Pwll Glas .:. Yr Wyddgrug .:. Sir y Fflint .:. CH7 1RA .:. Tel/Ffon: 01352 860014

UWB Logo (Small)
Learn Welsh with the North Wales Welsh for Adults Centre
Welsh Assembly Government Logo