|
Darparwyr Allanol http://www.mentrauiaith-gogledd.com Mae nifer o Fentrau Iaith yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Cymraeg yn Gyntaf. Pwrpas yr ymgyrch yw i annog pobl yn yr ardaloedd hyn i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Bydd yr ymgyrch yn targedu siaradwyr a dysgwyr Cymraeg er mwyn eu cael nhw i fentro defnyddio Cymraeg cyn Saesneg wrth ddechrau sgwrs. Mae rhaglenni llawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u trefnu o dan ofal Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Mentrau Iaith er mwyn hybu ac annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgyrch gam obeithio fod rhywbeth wedi’u drefnu at ddant pawb! Mae'r ymgyrch yn gyfle gwych i bobl yn y deunaw ardal ddefnyddio eu Cymraeg gymaint a phosib - yn y gwaith, yn y gymuned leol ac wrth gymdeithasu ac yn gyfle i bobl weld a chlywed gymaint o Gymraeg sy’n yr ardal a gobeithio wedyn yn teimlo’n fwy hyderus i ddechrau sgwrs yn Gymraeg yn y dyfodol. Yn ogystal â gweithgareddau bydd nwyddau penodol ar gael ar gyfer yr ardaloedd gyda’r un neges syml – Mentrwch – defnyddiwch eich Cymraeg yn Gyntaf! Conwy http://www.siop-siarad.co.uk |