
Rhaid cofrestru i fynychu hyfforddiant o leiaf 7 diwrnod gwaith cyn y sesiwn trwy gysylltu â Swyddog Hyfforddiant ac Ansawdd. Gofynnir i chi nodi unrhyw anghenion dietegol neu symudedd all fod gennych.

Rhoddir cydnabyddiaeth i diwtoriaid rhan amser yn unig am fynychu hyfforddiant (£35.00 - hanner diwrnod, £50.00 diwrnod cyfan o hyfforddiant). Ni roddir cydnabyddiaeth i diwtoriaid llawn amser, myfyrwyr y Cymhwyster Cenedlaethol na darpar diwtoriaid.
Ad-delir costau teithio tiwtoriaid am fynychu hyfforddiant, yn unol â’r graddfeydd diweddaraf (40c y filltir).
Fe’ch anogir i rannu car â chyd diwtor neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yn bosibl, yn unol â pholisi’r Ganolfan.
Gofynnir i diwtoriaid gwblhau ffurflen hawlio costau ar ddiwedd yr hyfforddiant. Er mwyn hawlio unrhyw gostau parcio, rhaid cyflwyno tocyn parcio gyda’r ffurflen.
Ar ddiwedd pob sesiwn hyfforddiant gofynnir yn garedig i chi gwblhau ffurflen werthuso. Ystyrir eich sylwadau wrth lunio rhaglen a chynnwys y rhaglen hyfforddi mewn ymdrech i sicrhau bod y Ganolfan yn diwallu anghenion hyfforddi tiwtoriaid y rhanbarth.