|
Pam dysgu Cymraeg?
Mae nifer o gwmniau proffesiynol bellach yn defnyddio'r iaith
Gymraeg i ychwanegu gwerth i'w cynnyrch a gwella'u
gwasanaethau i gwsmeriaid. Maent yn sylweddoli fod cynnig
gwasanaeth dwyieithog yn rhan hanfodol o ddatblygu cysylltiadau
gyda chwsmeriaid a chleientiaid yng Nghymru.
Mae defnyddio'r iaith yn dangos yn glir eich bod yn ymfalchio yn y ffaith eich bod yn gweithio yng Nghymru a'ch bod yn parchu'r diwylliant a'r gymuned. I gwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg, mae clywed yr iaith a chael cyfle i'w siarad gyda'ch staff yn rhoi mantais fusnes amlwg i chi. I bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg, p'un a ydyn nhw'n dod o Gymru neu o'r tu hwnt, mae gweld a chlywed Cymraeg yn ennyn diddordeb ac yn destun siarad.
Pam defnyddio'r iaith Gymraeg yn fy musnes i? Be'nesa? Dowch o hyd i eich cwrs agosaf ac ewch ati i ddysgu
|